P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud y Nodiadau Canllaw Nodyn Cyngor Technegol Mwynau, yn arbennig y rheini’n ymwneud â chlustogfa 500 metr o amgylch gweithfeydd brig, yn orfodol yn neddfau cynllunio Cymru.

Gwybodaeth ychwanegol: Ar 20 Ionawr 2009, cyflwynodd Jane Davidson, y Gweinidog Amgylchedd, nodiadau canllaw Cyngor Technegol Mwynau Glo (MTAN) a oedd newydd eu cyhoeddi, ar gyfer Cymru, a nododd: “.. bydd y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau Glo yn cyflawni’r addunedau (yn 2008) i gyflwyno Asesiadau Effaith ar Iechyd ar gyfer ceisiadau glo, ynghyd â chlustogfeydd, a gyda phwyslais ar weithio’n agos â chymunedau lleol. Mae’n ailddatgan yr ymrwymiad (yn 2008) i glustogfa 500m.” Yn 2009 nid oedd gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i wneud ei chanllawiau cynllunio yn ddeddf. Mae ganddi’r pŵer bellach

 Prif ddeisebydd:  Dr John Cox

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013

 

Nifer y llofnodion: 680. Casglwyd deiseb gysylltiedig 330 o lofnodion